Mae'r wythnos hon yn nodi pedair blynedd ers i lifogydd dinistriol daro cymunedau ledled Canol De Cymru yn ystod Storm Dennis. Wrth adlewyrchu ar y pedair blynedd diwethaf, bu Heledd Fychan, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, yn myfyrio ar y gwaith a gwblhawyd ers hynny, ond hefyd yr ofn mae nifer yn dal i deimlo bob tro y bydd hi'n bwrw glaw yn drwm, a lefel yr afonydd yn codi. Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gweithredu yn yr ardaloedd hynny sy'n parhau i fod mewn perygl, sy'n cynnwys risg parhaus i fywyd pe bai'r un lefel o lifogydd yn digwydd eto.
Wrth siarad pedair mlynedd ers y llifogydd, dywedodd Ms Fychan:
"Pedair blynedd yn ôl, fe wnaeth Storm Dennis ddinistrio ein cymunedau, gan adael llawer heb gartrefi a busnesau heb fedru agor. Pan gefais fy ethol i'r Senedd yn 2021, fe wnes i addewid i'n cymunedau a ddioddefodd llifogydd na fyddwn yn eu hanghofio, ac y byddwn yn parhau i gefnogi'r rhai sy'n parhau i gael eu heffeithio gan lifogydd.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi ymgyrchu'n ddiflino gyda'n cymunedau yr effeithiwyd arnynt, gan sicrhau bod eu lleisiau a'u profiadau yn ganolog i fy ngwaith.
"Ers 2020, rwyf wedi llwyddo i sicrhau cyllid sylweddol i wella amddiffyniad rhag llifogydd drwy'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, rwyf wedi helpu i sefydlu grwpiau gweithredu llifogydd mewn nifer o gymunedau risg uchel ac wedi rhoi cymorth i drigolion ar faterion amrywiol sy'n gysylltiedig â llifogydd, gan gynnwys cymorth ymarferol fel sicrhau gatiau llifogydd.
"Er bod cynnydd wedi'i wneud, mae rhagor i'w wneud o hyd i amddiffyn cartrefi a busnesau rhag llifogydd yn y dyfodol. Byddaf yn parhau i achub ar bob cyfle i godi'r mater hwn yn ein Senedd, ac ymladd dros gyfiawnder i'r rhai sy'n byw mewn ofn bob tro y bydd hi'n bwrw glaw yn drwm.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter