Heledd Fychan yn ymuno â Gwirfoddolwyr y Groes Goch Brydeinig yn lansiad tîm gwirfoddoli brys pwrpasol newydd yn Rhondda Cynon Taf

Ddydd Sadwrn (11 Tachwedd) mynychodd Heledd Fychan Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru lansiad tîm gwirfoddolwyr ymroddedig newydd y Groes Goch Brydeinig. Gan weithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, byddant yn darparu cymorth i bobl sydd wedi'u heffeithio gan argyfwng ar draws Rhondda Cynon Taf.

Bydd gwirfoddolwyr y Groes Goch Brydeinig yn gweithio ar gais y Gwasanaeth Tân ac Achub i fynychu galwadau ar draws Rhondda Cynon Taf a'r ardaloedd cyfagos, gan ddarparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i'r rhai yr effeithir arnynt. Mae'r tîm a'r cerbyd - sy'n Land Rover Defender - wedi'u lleoli yng ngorsaf dân Pontypridd.

Wrth siarad yn dilyn y lansiad dywedodd Heledd Fychan:

"Mae trigolion a busnesau ledled Rhondda Cynon Taf wedi profi nifer o sefyllfaoedd brys, gan gynnwys llifogydd dinistriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  

"Bydd lansio'r tîm arbenigol hwn yn dod â llawer o gysur i gymunedau sy'n wynebu argyfwng neu'n parhau i fod mewn perygl o lifogydd, gan gynnig cefnogaeth emosiynol hanfodol ond sydd hefyd yn barod i ddarparu'r cymorth ymarferol sydd ei angen ar ein cymunedau.

"Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd yn Rhondda Cynon Taf ond mae cael tîm yng nghanol ein cymuned yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Hoffwn ddiolch i'r Groes Goch Brydeinig a'u holl wirfoddolwyr am wneud hyn yn bosibl."

Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli gyda'r Groes Goch Brydeinig ar gael yma:https://volunteer.redcross.org.uk/opportunities/40554-emergency-response-volunteer-prontypridd-2022-11-30

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-11-17 10:25:18 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd