Diwedd y Flwyddyn Seneddol

Wythnos yma oedd ein wythnos olaf yn siambr y Senedd tan fis Medi.

Roedd yn wythnos brysur, a thanllyd ar adegau, yn bennaf wrth imi a fy nghyd-aelodau o Blaid Cymru geisio cael atebion gan y Llywodraeth ar nifer o faterion o bwys cyn i’r toriad ddechrau.

 

Un o’r materion hynny oedd bwyd dros y gwyliau ysgol ar gyfer plant a phobl Ifanc sy’n gymwys ar gyfer derbyn brydau ysgol am ddim. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bwyd i’r plant a’r pobl Ifanc yma ond yn anffodus, does dim darpariaeth am yr haf. Er bod disgwyl i rai o’r cynlluniau y byddant y neu rhedeg – megis rhaglen Bwyd a Hwyl ('Bwyd a Hwyl' Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) - CLILC (wlga.cymru) – gyrraedd tua 30,000 o blant – a rhaglen arall gyraedd tua 10,000 o blant- bydd bwlch enfawr, gan bod oddeutu 92,000 o ddisgyblion rhwng 5 a 15 oed yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae hwn yn fwlch felly o 52,000 o ddisgyblion sydd mewn perygl felly o lwgu’r haf hwn.

Mae nifer o fanciau bwyd lleol ac elusennau yn bryderus dros ben, gan nad yw’r Llywodraeth wedi cyfathrebu hyn iddynt na rhoi cynllun ar waith o ran sut mae sicrhau bod bwyd ar gael, a hefyd bod teuluoedd yn gwybod sut mae cael mynediad ato.  Byddaf yn parhau i geisio cael eglurder ar fyrder.  

Rwyf yn eithriadol o falch fod Plaid Cymru drwy’r Cytundeb Cydweithio wedi llwyddo i sicrhau cinio ysgol am ddim i bob plentyn oed cynradd yn ystod y tymor, yn arbennig wedi i’r Blaid Lafur bleidleisio dro ar ol tro i wrthod hyn. Rhaid rwan blaenoriaethu ymestyn hyn i bob gwyliau ysgol a hefyd i ysgolion uwchradd.

Felly, er nad yw’r Senedd yn eistedd, mae digon o waith i’w wneud dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Rwyf yn edrych ymlaen i ymweld gyda llwyth o brosiectau a grwpiau cymunedol lleol, ynghyd a sefydliadau cenedlaethol. Byddaf hefyd yn cael peth amser ffwrdd gyda fy nheulu, ond bydd aelodau o fy nhim yn parhau i fod ar gael yn ystod y cyfnod hwnnw i helpu unrhyw un sydd angen cefnogaeth.

Os oes prosiect yr hoffech imi ymwled gyda, neu os ydych eisiau cymorth, plis dewch i gysylltiad drwy ebostio [email protected] neu ffonio 01443 853214

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-07-14 10:42:34 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd