Yn ddiweddar, ysgrifennais lythyr at y bwrdd iechyd yn mynegi fy mhryderon ynghylch cau'r unig feddygfa yng Nghilfynydd. Mae'r gangen hon o Feddygfa Dyffryn Taf yn achubiaeth hanfodol i lawer o breswylwyr, yn enwedig yr henoed sy'n dibynnu'n llwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd.
Byddai cau'r feddygfa hon nid yn unig yn effeithio ar les cyffredinol y gymuned, ond hefyd yn ei gwneud bron yn amhosibl iddynt gael mynediad at apwyntiadau brys mewn modd amserol oherwydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gwael. Amlygais hefyd y ffaith y byddai'n rhaid i lawer o drigolion aros yn hirach fyth am wasanaeth cyfyngedig pe bai'r feddygfa yn cau.
Er bod y bwrdd iechyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad 6 wythnos â chleifion i glywed lleisiau lleol, rwy'n eu hannog yn gryf i ymrwymo i ddyfodol cangen Cilfynydd o'r feddygfa. Rwy'n gobeithio y byddant yn gwrando ar bryderon y gymuned ac yn sicrhau nad yw'r gwasanaeth hanfodol hwn yn cael ei golli.
Byddaf yn parhau i frwydro dros y gwasanaethau gofal iechyd y mae ein cymunedau yn eu haeddu. Rwy'n annog preswylwyr a chleifion y feddygfa i ymateb i'r ymgynghoriad. Darllen fy llythyr i'r bard Iechyd isod.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter