“Ni all pobl fforddio aros yn hirach am weithredu” – Heledd Fychan AS

Dim ond un o bedwar ar ddeg o argymhellion Llywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng Costau Byw sydd wedi’i gyflawni, yn ôl ymchwil gan Blaid Cymru.

Ym mis Awst y llynedd, ffurfiodd Llywodraeth Cymru grŵp o 18 o arbenigwyr i gynghori’r Llywodraeth ar yr effaith y mae’r argyfwng Costau Byw yn ei chael ar bobl Cymru, ac i nodi camau y dylid eu cymryd i liniaru’r effaith.

Fodd bynnag, mae ymchwil gan Blaid Cymru wedi datgelu bod y rhan fwyaf o gamau gweithredu eto i’w cymryd a bod diffyg eglurder ac ymrwymiad ar eraill yn llethu teuluoedd ledled Cymru.

Mae bron i hanner aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd, ac mae traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol ar ôl i dargedau i ddileu tlodi plant erbyn 2020 gael eu dileu wyth mlynedd yn ôl.

Wrth ymateb i gyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant newydd Llywodraeth Cymru, dywedodd

 Heledd Fychan AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru:

“Mae gormod o blant a phobl ifanc yng Nghanol De Cymru yn byw mewn tlodi, heb unrhyw fai arnyn nhw. Effeithia hyn ar eu rhagolygon yn y dyfodol, a'u hiechyd a'u hapusrwydd.

“Mae angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu ar frys, a blaenoriaethu trechu tlodi.

“Er fy mod yn croesawu cyhoeddi’r strategaeth tlodi plant ddiwygiedig o’r diwedd, mae’n ddiwerth heb dargedau mesuradwy.

 “Nid yw geiriau cynnes yn rhoi bwyd ar fyrddau, nac yn gwresogi cartrefi. Ni all plant Cymru fforddio aros yn hirach am weithredu go iawn.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-01-24 15:57:44 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd