Cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai bron i 500 o weithwyr yn safleoedd UK Windows and Doors yn Nhreorci, Trewiliam, Llwynypia, a Ffynnon Taf yn colli eu swyddi. Mae'r newyddion hwn yn gwbl ddinistriol i'r gweithwyr a'u teuluoedd mor agos at y Nadolig.
Mae’r rhain yn swyddi y mae dirfawr eu hangen yn y Rhondda, ac yn ddiweddar cyflwynais gwestiwn brys i Lywodraeth Cymru i ddarganfod sut y byddant yn cefnogi pob gweithiwr a sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth ar gael i bawb sydd wedi colli eu swyddi. Rwy’n falch bod y llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda’r cyngor lleol i gefnogi gweithwyr a byddaf yn parhau i godi pryderon gweithwyr gyda Gweinidogion.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter