CYMRU WEDI CAEL BARGEN WAETH NA RHANBARTHAU LLOEGR OHERWYDD DIFFYG CYNLLUNIAU LLYWODRAETH CYMRU

Wrth ymateb i sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, ar Radio Cymru a Radio Wales bore yma (Dydd Iau 12fed Mehefin 2025), mae Heledd Fychan wedi beirniadu “diffyg cymhwysedd” Llywodraeth Cymru am fethu â sicrhau gwell bargen ar fuddsoddiad rheilffyrdd yng Nghymru wrth gymharu â'r biliynau y bydd dinasoedd a rhanbarthau yn Lloegr yn eu derbyn.

Yn ystod yr Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr ddoe (Dydd Mercher 11eg Mehefin 2025), amlinellodd y Canghellor buddsoddiad ar gyfer prosiectau rheilffordd ledled Lloegr:

  • £2.5bn i Fanceinion Fwyaf
  • £2.4bn i Orllewin Canolbarth Lloegr
  • £2.1bn i Ddwyrain Swydd Efrog
  • £2.0bn i Ddwyrain Canolbarth Lloegr
  • £1.6bn i Ranbarth Dinas Lerpwl

Cyhoeddodd ond £445m i Gymru – er bod £4bn yn ddyledus o HS2, y tanfuddsoddiad hanesyddol i isadeiledd rheilffordd Cymru, a’r cannoedd o filynau mae Cymru’n cael ei hamddifadu o yn dilyn Llafur yn ailddosbarthu’r llinell Rhydychen-Caergrawnt.

Wnaeth Mark Drakeford AS cyfaddef ar Radio Cymru fod dinasoedd a rhanbarthau Lloegr wedi derbyn fwy o arian oherwydd bod ganddynt gynlluniau a staff i wella seilwaith rheilffordd, a bod Cymru ar y “cam cyntaf” yn unig. Roedd hefyd wedi cyfaddef fod Llywodraeth Cymru ond wedi gofyn am £118m i wneud Tomenni Glo yn ddiogel er fod ei lywodraeth wedi amcangyfrif costau oddeutu £600m.

Mae Ms Fychan wedi cwestiynu pam nad oedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi paratoi'n well i ddatblygu cynlluniau seilwaith rheilffyrdd ar ôl 26 mlynedd mewn grym - gan ddweud y bydd ei diffyg brys a diffyg uchelgais nawr yn golygu bydd cymunedau Cymru yn colli allan.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyllid, Heledd Fychan AS:

“Mae hwn yn dangos diffyg cymhwysedd pur Lywodraeth Lafur Cymru. Yn ôl cyfaddefiad Drakeford ei hun, derbyniodd Cymru bargen waeth na rhanbarthau a dinasoedd Lloegr oherwydd bod Llafur yng Nghymru wedi holi am lai. Ni allwch wneud hyn fyny.

"Beth mae Llafur wedi bod yn gwneud am y 26 mlynedd maent wedi bod mewn grym yng Nghymru? Am dros 14 blynedd, roeddent yn dweud sut fyddai pethau’n wahanol pe bai Llywodraeth Lafur DU felly pam nad oedd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r amser hwnnw i baratoi? A lle mae’r brys i sicrhau bod eu ‘partneriaid mewn pŵer’ yn mynd i’r afael a thanfuddsoddiad hanesyddol Cymru a’i rheilffyrdd, a rhoi’r arian sydd angen i wneud tomenni glo yn ddiogel? Unwaith eto, mae Cymru’n colli allan oherwydd diffyg uchelgais Llafur – a pwy sy’n talu’r pris? Ein cymunedau.

"Fyddai llywodraeth Plaid Cymru yn ddi-baid yn mynnu fod Cymru’n derbyn pob un geiniog sydd yn ddyledus iddi – a ni fyddwn yn derbyn dim byd llai.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-06-17 10:37:53 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd