Anog Cyngor RhCT i gynnwys barn trigolion a busnesau yn y cynlluniau adfywio Pontypridd

Heddiw, mae disgwyl i Gabinet Cyngor RhCT drafod Cynllun Creu Lle newydd Pontypridd.

Tra bod dirfawr angen buddsoddiad a datblygiad yn yr ardal dan sylw, mae cynrychiolwyr lleol Plaid Cymru heddiw yn annog Cyngor RhCT i ail-ymgynghori ac yn bwysicach fyth i wrando ar farn trigolion, busnesau lleol a defnyddwyr y dref.

Mae'r Cynghorydd Dawn Wood a Heledd Fychan AS, sydd ill dwy hefyd yn Gynghorwyr Tref dros ward Tref Pontypridd, yn pryderu bod cynlluniau wedi'u datblygu a'u cyflwyno i'r gymuned yn hytrach na'u datblygu gyda'r gymuned. Mewn gwirionedd, roedd y Cabinet eisoes wedi gwneud penderfyniad yn eu cyfarfod ar 28 Chwefror 2022 y byddai datblygiad a oedd yn cynnwys gwesty yn mynd yn rhagddo ar safle’r Hen Neuadd Bingo cyn unrhyw ymgynghoriad, gan wneud ffars o’r broses gyfan.

 

Ymhellach, cynhaliwyd yr ymgynghoriad dilynol rhwng 1 Mawrth a 29 Mawrth 2022, yn fewnol gan y Cyngor yn hytrach na gan sefydliad allanol, a dim ond 164 o ymatebion a gafwyd. Mae hyn yn cynrychioli 1.2% o'r boblogaeth gyfagos.

 

Er bod trigolion a busnesau wedi cyflwyno cynlluniau a syniadau amgen, nid yw’r un o’r cynlluniau wedi’u haddasu sy’n golygu bod trigolion a busnesau’n rhwystredig na chaiff y buddsoddiad hwn ei gyflawni mewn ffordd sy’n sicrhau’r buddion mwyaf posibl i’r dref. Mae hyn yn groes i’r Siarter Creu Lleoedd yn ogystal â’r ffyrdd o weithio sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd ill dau yn gofyn am ymgysylltu a chydweithio priodol â phobl a chymunedau.

 

Dywedodd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru: “Rydym i gyd eisiau gweld buddsoddiad pellach ym Mhontypridd, ond mae’n rhaid iddo fod y buddsoddiad cywir, wedi’i ddatblygu gyda’r gymuned, ac yn sicrhau’r buddion mwyaf posibl i’r gymuned.

“Mae Pontypridd yn dref a gafodd ei difrodi gan lifogydd helaeth yn 2020 ac o’u gwneud yn iawn, mae gan y cynlluniau hyn y potensial i helpu i ffurfio ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur tra hefyd ddarparu cyfleoedd economaidd cynaliadwy i’r dref.

“Dylai Cyngor RhCT ail-feddwl ac ail-lunio’r cynlluniau hyn gyda thrigolion, perchnogion busnesau a defnyddwyr lleol.”

 

Ychwanegodd Dawn Wood, Cynghorydd Ward Tref Pontypridd: “Dylai ymgynghoriad fod yn ystyrlon yn hytrach na symbolaidd. Mae’n amlwg bod pobl wedi eu ymddieithrio o’r broses, o ystyried mai dim ond 1.2% o drigolion a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad.

“Fel cynrychiolydd lleol, gwn fod y gymuned leol a busnesau lleol yn gyffrous am ddyfodol ein tref ac wedi cynnig nifer o syniadau – a chafodd pob un ohonynt eu hanwybyddu gan yr ymgynghoriad hwn. Nid oes neb yn erbyn datblygiad, ond mae'n rhaid iddo fod y datblygiad cywir, a fydd yn sicrhau'r buddion mwyaf posibl - yn amgylcheddol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd.

“Mae trigolion a busnesau wedi cael llond bol ar bethau’n cael eu gwneud i Bontypridd yn hytrach na gyda Pontypridd. Rwy’n annog y Cyngor i ailfeddwl y cynlluniau hyn, a’u hail-lunio gyda’r gymuned fel bod y datblygiad yn gweithio i drigolion, busnesau ac ymwelwyr i’n tref.”

 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bu Heledd Fychan AS hefyd yn ymgynghori â thrigolion a busnesau lleol ar y cynlluniau. Dim ond 12% o'r rhai a ymatebodd oedd yn teimlo bod Cyngor RhCT wedi ystyried eu barn am y cynlluniau a dim ond 5.4% oedd yn cefnogi cynlluniau ar gyfer gwesty ar y safle arfaethedig. Mae'r canlyniadau i'w gweld yma: Canlyniadau yr arolwg datblygu Canol Trefi : Pontypridd - Heledd Fychan CYM

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-06-22 14:43:20 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd