Plaid Cymru yn Sefyll mewn Undod â'r Gymuned Traws

Mae dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys wedi achosi gofid o fewn y gymuned drawsryweddol. Mae Plaid Cymru yn pwysleisio na ddylid gweld y penderfyniad hwn fel buddugoliaeth i un grŵp dros un arall. Rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein hymrwymiad i amddiffyn hawliau pawb, cefnogi hawliau menywod a phobl Traws, a chynnal egwyddor hunan-adnabod.

 

Nid yw'r farn gyfreithiol hon yn lleihau hawliau pobl traws yn erbyn gwahaniaethu, a bydd Plaid Cymru yn parhau i eirioli dros ddatganoli pwerau cydraddoldeb i sicrhau bod yr hawliau hyn yn cael eu diogelu. Mae ymladd dros hawliau menywod yn golygu ymladd dros bob menyw, gan gynnwys menywod trawsryweddol, a chreu cymdeithas sy'n rhydd o wahaniaethu a thrais. Gyda'n gilydd, rhaid uno yn erbyn rhagfarn a chasineb a sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol i bawb.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-05-07 11:48:45 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd