BETH AM GOFFI – HELEDD FYCHAN MS YN CODI MWG I GEFNOGI BORE COFFI MACMILLAN

Ymunodd Heledd FychanAS â staff a gwirfoddolwyr Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd i nodi digwyddiad codi arian Bore Coffi blynyddol yr elusen.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddarganfod mwy am sut mae Macmillan yng Nghymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser, yn ogystal â chyfarfod â gwirfoddolwyr ysbrydoledig, codwyr arian a gweithwyr proffesiynol Macmillan.

Eleni, mae'r elusen ganser yn dathlu ei 33ain Bore Coffi Macmillan blynyddol sy'n gweld miliynau o bunnoedd yn cael eu codi mewn digwyddiadau sy’n cael eu trefnu mewn cartrefi, ysgolion, gweithleoedd a mannau cymunedol.

Wrth siarad am eu cefnogaeth i'r digwyddiad codi arian blynyddol, dywedodd Heledd Fychan AS: “Gall y newyddion am ddiagnosis o ganser fod yn drychinebus, ac mae'n ffaith drist y bydd un o bob dau ohonom yn wynebu canser yn ystod ein hoes.

“Mae pob cwpan sy’n cael ei chodi yn cefnogi gwaith anhygoel Macmillan yng Nghymru fel y gall Macmillan barhau i wneud beth bynnag sydd ei angen i helpu pobl sy'n byw gyda chanser.

“Eleni mae pob ceiniog yn cyfrif, felly p'un a ydych chi'n codi ychydig geiniogau neu bunnoedd yn eich Bore Coffi Macmillan gall wneud gwahaniaeth o hyd. Rydym ni’n byw mewn cyfnod heriol ond mae Cymorth Canser Macmillan, ochr yn ochr â'n GIG a phartneriaid eraill, yn gweithio'n ddiflino i wneud beth bynnag sydd ei angen i bobl â chanser.

"Rwy'n falch o helpu i gefnogi bore coffi Macmillan, ac i helpu i roi gwybod i bobl bod y digwyddiad codi arian pwysig hwn. Byddwn yn annog unrhyw un i gymryd rhan, ac i gofrestru i drefnu Bore Coffi neu gyfrannu at fore coffi lleol yn y ffordd sydd fwyaf addas iddyn nhw.”

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: “Mae Bore Coffi Macmillan yn y Senedd yn ddigwyddiad arbennig. Mae'n wych gallu cwrdd â'n Haelodau o'r Senedd a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gweithgareddau a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol i gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru. Hoffem gynnig diolch o galon i (nodwch enw) AS am eu cefnogaeth.

“Gall diagnosis canser, mewn eiliad, droi bywyd rhywun wyneb i waered. Rydym ni’n byw mewn cyfnod heriol sy'n  gallu gwaethygu effaith diagnosis dinistriol. Mae effeithiau ariannol a chymdeithasol digwyddiadau byd-eang fel y pandemig a'r argyfwng ynni yn golygu bod angen cefnogaeth Macmillan ar bobl sy'n byw gyda chanser nawr yn fwy nag erioed o'r blaen yn ein cymunedau yng Nghymru.

“Mae mwy na 98% o gyllid Macmillan yn dod yn uniongyrchol o roddion. Heb yr haelioni cyfunol hwn, gallai miloedd o bobl golli allan ar ofal hanfodol gan ein nyrsys, neu gymorth ariannol mawr ei angen trwy ein grantiau Macmillan, neu fethu â chael gafael ar wybodaeth a chymorth dibynadwy yn bersonol, ar-lein neu ar ddiwedd y ffôn.

Fel bob amser, nid oes un ffordd neu ffordd gywir o gynnal bore coffi – gall fod beth bynnag yr hoffech chi, a gellir ei gynnal pan fydd yn addas i chi. Rydym ni’n gobeithio'n fawr y bydd pobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu eleni. Byddwn i'n dweud wrth bobl yng Nghymru — 'Beth am goffi a beth am ei wneud i’r rhai sy'n methu.

Mae Bore Coffi Macmillan eleni yn disgyn ar ddydd Gwener 29 Medi ond gellir cynnal digwyddiadau lleol drwy gydol y flwyddyn.

Sut bynnag y byddwch chi’n dewis cynnal eich Bore Coffi Macmillan, gallwch ymweld âhttps://coffee.macmillan.org.uk am syniadau cynnal, gemau ac ysbrydoliaeth pobi.

Am wybodaeth neu gymorth sy'n ymwneud â chanser, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu ewch i www.macmillan.org.uk.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-10-02 09:05:08 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd