Plaid Cymru yn pwyso am fwy o atebolrwydd wrth gynnal y mandad democrataidd i gefnogi sefydliadau diwylliannol.
Mae llefarydd Plaid Cymru dros ddiwylliant wedi ysgrifennu at Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn mynnu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn "cydnabod ei chyfrifoldeb" wrth sicrhau bod sefydliadau diwylliannol yn cael eu "meithrin a’u cynnal yn unol ag ewyllys democrataidd y Senedd."
Daw'r galwadau hyn ar ôl cau'r National Theatre of Wales, a ariennir Ariennir yn gyhoeddus, ym mis Rhagfyr 2024, a'r cyhoeddiad fod Theatr Genedlaethol Cymru newydd yn cael ei sefydlu gan Michael Sheen - unigolyn preifat.
Mae'r AS Plaid Cymru yn dweud bod gan Lywodraeth Lafur Cymru gyfrifoldeb democrataidd dros gynnal sefydliadau diwylliannol sy'n "arddangos creadigrwydd, talent a hunaniaeth Cymru".
Derbyniodd sefydliad Theatr Genedlaethol Cymru gefnogaeth drawsbleidiol fel rhan o Gytundeb Cymru'n Un yn 2007. Mae'r llythyr gan Heledd Fychan AS yn dweud y bydd ei phlaid yn "parhau i dynnu sylw at y mater hwn ac yn pwyso am fwy o atebolrwydd wrth gynnal y mandad democrataidd a sefydlodd y sefydliadau hyn".
Mae Plaid Cymru yn dweud y "y dylid bod wedi cymryd camau i fynd i’r afael â phryderon cyn i bethau gyrraedd y pwynt hwn", lle gorfodwyd Theatr Genedlaethol Cymru i gau, sydd wedi tanseilio'r " ymdrech ar y cyd a arweiniodd at ei ffurfio".
Mae'r Aelod yn parhau drwy annog Llywodraeth Lafur Cymru i "fyfyrio ar oblygiadau ehangach y sefyllfa hon ac i ailddatgan ei hymrwymiad i gefnogi celfyddydau a diwylliant Cymru fel sylfaen hanfodol i’n hunaniaeth genedlaethol."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, Heledd Fychan AS:
“Ni ddylai Michael Sheen orfod gwneud gwaith Llywodraeth Lafur Cymru ar ariannu Theatr Genedlaethol cyfrwng-Saesneg newydd i Gymru, yn enwedig o ystyried y sefydlwyd y Theatr yn 2009 yn sgil consensws trawsbleidiol yn y Senedd. Mae hyd yn oed yn fwy pryderus fod y Prif Weinidog a’r Gweinidog Diwylliant, wrth gael eu holi am yr argyfwng sy'n wynebu'r sectorau diwylliant a'r celfyddydau, yn claddu eu pennau yn y tywod ac yn methu â chydnabod difrifoldeb y sefyllfa.
"Mae'n amlwg nad yw Llafur yn gwrando ar y pryderon a godwyd, fel y rhai a godwyd gan Brif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru a rybuddiodd 'na fydd sector proffesiynol mewn 10 mlynedd' os bydd toriadau cyllid yn parhau.
"Mae'r rhybudd hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a sefydliadau di-ri eraill gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Creu Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru am effaith y toriadau, yn dangos yn glir nad yw Llafur naill ai'n gwrando neu ddim yn deall beth sy'n digwydd.
"Mae Plaid Cymru yn glir bod y sectorau diwylliannol, treftadaeth a chelfyddydol yn hanfodol ac yn haeddu cefnogaeth y llywodraeth. Maent yn dod â phobl ynghyd ac yn ysgogi twf yn ein diwydiannau creadigol. Ni allwn adael i'r sectorau hyn wywo ac rydym yn parhau i annog Llywodraeth Lafur Cymru i ddiogelu diwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter