Heddiw, cefnogodd mwyafrif o Aelodau’r Senedd gynnig diffyg hyder yn Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru. Mae'r bleidlais hon yn dangos bod pryderon difrifol am ei arweinyddiaeth.
Ar ôl y ddadl, dywedodd Heledd Fychan, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru:
"Ar adeg pan mae ymddiriedaeth pobl mewn gwleidyddiaeth yn isel, mae angen iddyn nhw fod â hyder yn y bobl maen nhw'n eu hethol. Ond, mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Llafur Cymru, wedi osgoi cymryd cyfrifoldeb dro ar ôl tro. Mae achosion yn cynnwys derbyn rhodd o £200k ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan lygrwr a gafwyd yn euog a dileu negeseuon destun sy'n berthnasol i’r ymchwiliad COVID.
"Mae'r bleidlais hon yn amlygu'r angen am arweinyddiaeth glir a gonest. Mae pobl Cymru yn haeddu arweinwyr sy'n agored, yn cymryd cyfrifoldeb, ac yn blaenoriaethu'r cyhoedd a'r amgylchedd er budd personol. Fel cynrychiolwyr, mae angen i ni gyflawni'r safonau hyn ac ennill ymddiriedaeth y bobl rydym yn eu gwasanaethu."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter