Heledd Fychan AS yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar Argyfwng y Celfyddydau a Diwylliant

Ar ddydd Mercher 18fed o Fehefin, arweiniodd Heledd Fychan, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru a llefarydd Plaid Cymru ar Ddiwylliant, ddadl bwerus a oedd yn canolbwyntio ar y cwestiwn – a yw diwylliant a'r celfyddydau yn bethau braf i'w cael neu'n ganolog i ddyfodol Cymru?

Cyflwynodd Ms Fychan yr achos dros ddiwylliant, a thynnodd sylw at sut mae diwylliant yn cyfrannu dros £1.6 biliwn i economi Cymru ac yn hybu iechyd, addysg a lles cymunedol. Rhybuddiodd hefyd fod lefelau cyllido presennol yn bygwth goroesiad rhaglenni gwirioneddol effeithiol yn ogystal ag asedau cymunedol diwylliannol lleol.

Wrth siarad ar ôl y ddadl, dywedodd Ms Fychan

“Allwn ni ddim parhau i ofyn i bobl ddewis rhwng cael eu biniau wedi’u gwagio neu amgueddfa, rhwng gofal cymdeithasol neu lyfrgell. Nid dewisiadau teg yw’r rhain. Nid yw diwylliant yn ddewis ychwanegol, mae wrth wraidd pwy ydym ni fel unigolion a chymunedau,”

Pwysleisiodd Ms Fychan hefyd yr angen i chwalu silos adrannol a chyflawni addewidion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan annog y Senedd nesaf i weithredu’n bendant.

“Rydym wedi clywed yr ymrwymiad i fuddsoddiad ataliol dro ar ôl tro, ond nawr mae angen dilyniant. Yr her i ni fel Senedd yw i beidio cytuno bod diwylliant yn bwysig yn unig, ond ei ymgorffori ar draws pob portffolio gan gynnwys iechyd, addysg a’r economi.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-06-24 11:41:18 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd