Heledd Fychan AS yn sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i wella diogelwch teithwyr a chyfleusterau ar Fetro De Cymru

Mewn cwestiwn diweddar i Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth, Ken Skates, fe wnaeth Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru Heledd Fychan fynegi pryderon am ddiogelwch teithwyr, glendid gorsafoedd, ac argaeledd cyfleusterau toiled ar fflyd newydd Metro De Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn AS Fychan, cydnabydodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth y materion, ac ymrwymodd i fynd i'r afael â nhw mewn trafodaethau sydd ar y gweill gyda Trafnidiaeth Cymru. Cadarnhaodd bwysigrwydd darparu gorsafoedd diogel, glân a chyfleusterau toiled digonol, yn enwedig i fenywod a theithwyr anabl.

Wrth siarad mewn ymateb i'r cwestiwn dywedodd AS Fychan:

 

"Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi derbyn nifer o negeseuon e-bost gan etholwyr sy'n poeni am hygyrchedd y fflyd newydd o drenau ar Fetro De Cymru. Rwy'n falch o gael ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i wella diogelwch teithwyr a’i hwyluso, fel y mae ei angen yn fawr."

 

"Bydd metro De Cymru yn cynnig llawer iawn i'n cymunedau yn y cymoedd felly mae'n bwysig bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwrando ar bryderon teithwyr ac yn sicrhau bod Metro De Cymru yn wasanaeth diogel, cyfforddus a chyfleus i bob teithiwr."

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-06-12 17:59:20 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd