Ddoe (Dydd Mercher 26) galwodd Heledd Fychan, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r materion a achosir gan chwarela yng Nghraig yr Hesg.
Mae Chwarel Craig yr Hesg, sy’n cael ei rhedeg gan Heidelberg Materials ac a leolir ger Pontypridd a Glyncoch, wedi bod yn destun cynnen sylweddol i drigolion lleol. Mae’r gymuned wedi bod yn lleisio eu gwrthwynebiad i’w gweithrediad parhaus a’r ehangu arfaethedig ond er gwaethaf hyn, anwybyddodd Llywodraeth Cymru wrthwynebiadau gan y gymuned leol a chyngor Rhondda Cynon Taf a rhoi caniatâd i’r chwarel barhau ac ehangu.
Yn ystod y ddadl yn y Senedd, tynnodd Ms Fychan sylw at y dioddef achoswyd i drigolion gan y ffrwydradau uchel o’r chwarel, sydd yn achosi difrod i'w heiddo. Pwysleisiodd hefyd bryder llygredd llwch ar iechyd trigolion yn ogystal ag effaith amgylcheddol ehangach chwarela.
Mae Ms Fychan wedi galw am weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan gynnwys saib yng ngwaith y chwarel hyd nes y gellir rhoi sicrwydd ynghylch effaith y chwarel ar iechyd lleol a'r amgylchedd. Ymhellach, anogodd Lywodraeth Cymru i wrando ar bryderon cymunedau fel Glyncoch ac adolygu deddfwriaeth a rheoliadau i sicrhau bod cwmnïau sy’n echdynnu mwynau yng Nghymru yn cael eu dal i’r safonau uchaf posibl er mwyn sicrhau na all pobl na natur gael eu niweidio gan waith chwareli yn agos i gartrefi.
Wrth siarad yn dilyn y ddadl dywedodd Heledd Fychan:
“Roedd y chwareli yng Nghraig yr Hesg i fod i ddod i ben ar Ragfyr 31, 2022, ac yna rhaglen adfer. Addawyd hyn i’r gymuned leol mewn ceisiadau cynllunio blaenorol, ond bellach disgwylir chwarela tan 2047.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar y gymuned ac anrhydeddu’r addewid hwnnw i’r gymuned ac atal y chwarela yng Nghraig yr Hesg. Dyw e ddim yn iawn bod eu lleisiau a’u profiadau yn parhau i gael eu hanwybyddu.”
Roedd trigolion sy’n byw ger chwarel Craig yr Hesg yn bresennol yn y ddadl, ac wedi eu siomi’n fawr gan ymateb Llywodraeth Cymru. Maen nhw, ynghyd â Heledd Fychan MS, wedi addo parhau â'r ymgyrch i ddod â gwaith y chwarel i ben.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter