Heddiw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi eu Hachos Busnes Amlinellol hir-ddisgwyliedig ar gyfer Teras Clydach a oedd yn edrych ar opsiynau i leihau'r risg o lifogydd ar y stryd. Mae hyn yn dilyn y llifogydd dinistriol a brofodd trigolion ym mis Chwefror 2020 o ganlyniad i Storm Dennis, a welodd rai yn gorfod nofio i ddiogelwch i oroesi.
Yn anffodus, er bod trigolion wedi cael gwybod bod risg i'w bywyd pe bai llifogydd tebyg yn digwydd eto, nid yw adroddiad heddiw yn darparu unrhyw atebion ar gyfer y stryd. Mae'n nodi'n syml nad yw'r ddau opsiwn a ystyriwyd - wal amddiffyn rhag llifogydd wedi'i chodi neu prynu trwy gytundeb yr eiddo sydd fwyaf mewn perygl - yn economaidd hyfyw o dan reolau ariannu Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Er bod CNC yn datgan nad ydyn nhw'n cerdded i ffwrdd a byddant yn parhau i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a phartneriaid eraill i archwilio'r opsiynau i reoli'r risg o lifogydd, bydd trigolion heb os yn hynod o siomedig nad oes datrysiad wedi'i ganfod.
Dydwedodd Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda thrigolion ers y llifogydd yn 2020, wrth ymateb i’r newyddion: “Mae trigolion nid yn unig yn parhau ddioddef trawma ond hefyd yn byw mewn ofn bob tro y mae hi’n glawio’n drwm. Maent wedi aros blynyddoedd am adroddiad heddiw, ac wedi gosod eu holl obeithion arno i gynnig ffordd ymlaen.
“Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn darparu eglurder o ran beth fydd yn digwydd nesaf, ynghyd ag amserlenni perthnasol. Ni all trigolion Clydach Terrace wynebu gaeaf arall yn llawn ansicrwydd ac yn ofni y gallent farw yn eu cartrefi. Mae angen ateb ar frys, a byddaf yn parhau i gefnogi trigolion nes y ceir un.”
Ychwanegodd Cynghorwyr Plaid Cymru ar gyfer Ynysybwl, Paula Evans ac Amanda Ellis, mewn datganiad ar y cyd: “Rydym yn teimlo’n hynod siomedig ar ran yr holl drigolion.
“Rydym wedi bod yn eu cefnogi ac yn gweithio'n agos gyda nhw dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddyn nhw ymladd am weithredu a chefnogaeth, ac mae'n siomedig iawn nad ydym yn agosach at ddatrysiad.
“Rydym wedi ysgrifennu at Gyngor RhCT, yn galw am ddiweddariad ar unwaith i’r trigolion ynglŷn â’r camau nesaf. Rhaid i rywbeth ddigwydd – ac yn fuan.”
Gellir darllen yr adroddiad yma: Rheoli perygl llifogydd yn Ynysybwl - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space
Gallwch hefyd ddysgu mwy am Clydach Terrace yn yr eitem newyddion hon ar Channel 4 a ddarlledwyd yn gynharach eleni: https://youtu.be/YfnzR4Aa_eU?feature=shared
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter