Heledd Fychan AS Yn Galw am Weithredu Brys i Gefnogi Cymunedau sydd wedi Dioddef Llifogydd yng Nghanol De Cymru

Heddiw (27 Tachwedd 2024), mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi ysgrifennu at Ddirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru yn gofyn am fwy o gefnogaeth i gymunedau sydd wedi dioddef llifogydd. Gyda llawer o gymunedau unwaith eto’n delio â llifogydd, tro hwn yn dilyn Storm Bert, mae ei llythyr yn amlinellu pam mae’n rhaid gweithredu ar fyrfer gan gynnwys rhoi’r gwersi y dylid bod wedi eu dysgu ar waith yn dilyn effaith ddinistriol Storm Dennis ar yr un cymunedau yn 2020.

 

Mae’r llythyr hefyd yn galw am fwy o gefnogaeth a gweithredu:

 

  1. Canllawiau clir: O ran cael mynediad at fesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer trigolion a pherchnogion busnes.
  2. Diweddariadau cynnydd: Ar argymhellion o adolygiadau o lifogydd yn y gorffennol.
  3. Staffio digonol a chyllideb ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: Sicrhau bod eu dyletswyddau atal a lliniaru llifogydd yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
  4. 4. Ymagwedd gyfannol: At atal a lliniaru llifogydd.
  5. Tryloywder a chyhoeddi data: Cefnogi honiadau o effeithiolrwydd amddiffynfeydd rhag llifogydd.
  6. Sefydlu Fforwm Llifogydd i Gymru: Wedi'i ysbrydoli gan yr Alban, i gefnogi cymunedau'n fwy effeithiol.
  7. Cynnydd ar unwaith: Ar fynd i'r afael â risgiau hirsefydlog, megis y rhai a wynebir gan drigolion Clydach Terrace.
  8. Asesiad cynhwysfawr: Sicrwydd ynghylch diogelwch tomennydd glo yn dilyn tywydd garw.

 

Dywedodd Heledd Fychan:

“Mae Storm Bert wedi gadael ei marc, gan ddinistrio nifer sylweddol o gartrefi a busnesau—llawer ohonynt yn dioddef o lifogydd am yr ail, y trydydd, neu hyd yn oed y pedwerydd tro ers 2020. Mae'r trigolion yr effeithiwyd arnynt nid yn unig wedi'u llethu ond hefyd yn fwyfwy rhwystredig gan y diffyg cefnogaeth ar gael iddynt a chynnydd ar wneud ein cymunedau yn ddiogel rhag llifogydd.

“Yn 2020, fe wnes i arwain y galwadau am ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd – rhywbeth a wrthodwyd dro ar ôl tro gan Lywodraeth Lafur Cymru. Bron i bum mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'n syndod bod pobl yn flin nad yw gwersi dal heb eu dysgu. 

“Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi etholwyr a byddaf yn parhau i ymgyrchu am y mesurau hanfodol hyn i amddiffyn cartrefi a busnesau rhag llifogydd yn y dyfodol.”

 

   

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-11-28 10:52:27 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd