Heledd Fychan AS yn galw am sefydlu Fforwm Llifogydd Cymru 2 flynedd wedi Storm Dennis.

Mae wythnos hon yn nodi dwy flynedd ers i gymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf (RhCT) a thu hwnt gael eu difrodi gan lifogydd helaeth o ganlyniad i Storm Dennis.

Cafodd tua 1,498 o gartrefi a busnesau yn RhCT eu taro, a dinistriwyd seilwaith hanfodol. Dwy flwyddyn yn ddiweddarach, mae cymunedau yn dal i aros am atebion heb unrhyw sicrwydd y byddant yn ddiogel yn y dyfodol os yw storm debyg yn taro eto.

Bu Heledd Fychan, Aelod y Senedd dros Ganol De Cymru, yn cefnogi ei chymuned ym Mhontypridd wedi'rllifogydd ac ers hynny mae wedi arwain ymgyrch yn galw am ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd.

Wrth siarad ar drothwy’r penblwydd, dywedodd Heledd Fychan AS: “Am y ddwy flynedd diwethaf mae cymunedau a busnesau wedi byw mewn ofn, gan baratoi am y gwaethaf pob tro mae’n glawio.

Er fy mod yn croesawu cyhoeddi rhai o’r adroddiadau, nid yw mwyafrif y trigolion yn credu bod yradroddiadau’n ddigonol. Mae yna ormod o gwestiynau dal heb eu ateb.

Dywedwyd wrthyf dro ar ôl tro gan gynrychiolwyr y Blaid Lafur yn lleol y byddai ymchwiliad annibynnol yn cymryd gormod o amser. Fodd bynnag, ddwy flynedd yn ddiweddarach, dydyn ni dal heb gael atebion am beth digwyddodd a pham, felly sut gallwn gynllunio i atal llifogydd yn y dyfodol?

“Nid yw preswylwyr yn teimlo’n hyderus y bydd eu cartrefi a’u busnesau yn ddiogel pe bai digwyddiad tebyg yn digwydd yn y dyfodol.”

Gan ystyriyried beth arall y gellid ei wneud i gefnogi cymunedau sy’n wynebu’r perygl o llifogydd, mae Heledd Fychan AS wedi galw heddiw am sefydlu Fforwm Llifogydd yng Nghymru, i ymgymryd â rôl debyg i Fforwm Llifogydd yr Alban. Ariennir y Fforwm gan lywodraeth yr Alban, a’i dasg yw gweithio gyda cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd i ddatblygu grwpiau gweithredu llifogydd yn ogystal â darparu cymorth ar unwaith pan fydd unigolion a chymunedau’n profi llifogydd.

Dywedodd Heledd Fychan AS: “Byddai Fforwm Llifogydd Cymru yn lais i gymunedau mewn perygl, gan ddarparu cefnogaeth ymarferol yn ogystal ag eirioli ar eu rhan.

“Ochr yn ochr ag adolygiad i lifogydd 2020, a sicrhawyd fel rhan o’r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, byddai’n rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i gymunedau sy’n parhau i  ddiorddef trawma yn dilyn llifogydd 2020.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-02-15 17:43:38 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd