Tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad byr ar effaith Stormydd Bert a Darragh

Roedd mis Chwefror yn nodi pum mlynedd ers i Storm Dennis ddinistrio cartrefi a busnesau ledled De Cymru. Ers hynny, mae llawer o bobl wedi dioddef llifogydd dilynol ac yn parhau i fyw dan fygythiad parhaus. Mae angen gwneud mwy, a llawer yn gyflymach, i gefnogi cymunedau sydd bellach yn byw mewn ofn bob tro y mae'n bwrw glaw yn drwm.

Ar ben-blwydd Storm Dennis, trefnais ddigwyddiad ym Mhontypridd i drafod beth sydd wedi digwydd ers 2020 a beth sydd angen ei wneud o hyd. Daeth y digwyddiad â chynrychiolwyr ynghyd o Gyngor RhCT, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Dŵr Cymru, a’r Groes Goch Brydeinig i drafod cynnydd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yn bwysicaf oll, fe wnaethom wrando ar drigolion a chymunedau sy’n byw gyda’r perygl parhaus o lifogydd.

Mae fy nhîm a minnau yn parhau mewn cysylltiad â’r rhai sydd angen cymorth pellach. Ar hyn o bryd rydym yn llunio rhestr o bobl y gwrthodwyd llifddorau iddynt yn flaenorol ond sydd bellach eu hangen. Rwy’n annog unrhyw un sydd heb gysylltu eto ond sydd angen cefnogaeth i estyn allan.

Mae fy ngwaith eirioli hefyd wedi arwain at bwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y Senedd yn cynnal ymchwiliad byr i Storm Bert. Cyflwynais dystiolaeth, y gellir ei gweld yma:

 

Tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad byr ar effaith Stormydd Bert a Darragh


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-03-04 10:41:32 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd