“Bydd y creadigrwydd a’r arloesedd a feithrinir gan ein Eisteddfodau yn hollbwysig o ran llwyddiant Cymru yn y dyfodol” – Heledd Fychan AS

Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron – a’r gyntaf i gael ei chynnal am dair blynedd - mae Plaid Cymru wedi galw heddiw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei chefnogaeth i’r ŵyl er mwyn sicrhau ei llwyddiant i’r dyfodol.

Tra’n croesawu’r cyllid a ddarparwyd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystod pandemig Covid-19 a hefyd y cyllid i gynnig 15,000 o docynnau am ddim, mae llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant a’r Gymraeg, Heledd Fychan AS yn credu y dylid darparu mwy o gefnogaeth dros y blynyddoedd nesaf i alluogi’r Eisteddfod Genedlaethol i barhau i esblygu, i hyrwyddo’i hun yn well i gynulleidfaoedd rhyngwladol, a hefyd i ehangu’r ddarpariaeth o docynnau rhad ac am ddim i bobl o bob oed er mwyn i fwy allu cymryd rhan a mwynhau’r hyn sydd gan yr Eisteddfod i’w gynnig.

Gan gyfeirio at lwyddiant y polisi mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd yn gynharach eleni, ac effaith barhaus yr argyfwng costau byw, dywedodd Ms Fychan ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw cost yn rhwystr i unrhyw un sy’n byw yn ardal yr Eisteddfod rhag gallu mwynhau arlwy’r Maes. Cred bod hyn yn arbennig o bwysig o ystyried pa mor hanfodol yw codi arian yn lleol i sicrhau bod yr Eisteddfod yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn.

Dywedodd Heledd Fychan AS:

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd yn chwarae rhan allweddol o ran hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’n diwylliant i bobl o bob oed a chefndir, boed yn siaradwyr iaith gyntaf, yn ddysgwyr Cymraeg neu ddim yn siarad Cymraeg.

“Wrth deithio i wahanol rannau o Gymru bob blwyddyn, mae’nt yn sefydliadau gwirioneddol genedlaethol ac yn hanfodol o ran sicrhau parhad y Gymraeg fel iaith fyw a bywiog.

“Bydd y creadigrwydd a’r arloesedd a feithrinir ganddynt yn hollbwysig o ran llwyddiant Cymru yn y dyfodol, a dyna pam rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei chefnogaeth i’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn sicrhau eu hyfywedd yn y dyfodol. Rhaid i’r Llywodraeth hefyd wneud mwy i wireddu’r potensial drwy hyrwyddo’n Eisteddfodau a’n diwylliant unigryw i gynulleidfaoedd rhyngwladol.

“Mae angen i ni hefyd sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu fforddio mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol drwy ehangu’r ddarpariaeth o docynnau am ddim. Drwy ariannu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd yn gynharach eleni, fe wnaeth Llywodraeth Cymru sicrhau bod mwy o bobl nag erioed o’r blaen wedi gallu mwynhau’r hyn oedd ar gael. Dylent wneud yr un peth ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fel nad yw cost yn rhwystr i unrhyw un sy’n byw yn yr ardal allu mynychu.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o drefnu’r Eisteddfod a chodi arian yn lleol. Bydd yn wych bod yn ôl ar y Maes ac rwy’n siŵr y bydd pob ymwelydd yn mwynhau ac yn cael croeso mawr gan bobl Ceredigion.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-08-02 15:49:47 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd