Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Lywodraeth Lafur yng Nghymru i weithredu ar anghyfiawnderau pensiynau hanesyddol, i gefnogi dioddefwyr y sgandalau hyn.
Mewn cynnig i'w drafod yn y Senedd ddydd Mercher (21 Mai 2025), mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ‘gyflwyno'r achos’ ar anghyfiawnderau pensiwn hanesyddol. Ymateb Llafur oedd i ‘ddileu’ y galwadau.
Mae'r cynnig gan Blaid Cymru yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hir sefydlog, sy'n deillio fel canlyniad i ddiffyg gweithredu Llywodraethau olynol y DU. Mae'r cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU ar y materion hyn.
Mae tair enghraifft o anghyfiawnderau pensiwn yn cael eu hamlygu yn y cynnig; menywod y 1950au sydd wedi eu hamddifadu o gyfiawnder gan Lafur, gweithwyr o Allied Steel and Wire nad ydynt wedi derbyn y pensiynau sy'n ddyledus iddynt, a staff Staff Glo Prydain a gawsant eu heithrio o'r Cynllun Pensiwn y Glowyr.
Bydd cefnogwyr y cynnig, fel John Benson, yn bresennol ar ddiwrnod y ddadl, i ddangos cefnogaeth i gynnig Plaid Cymru, ac undod gydag unigolion a grwpiau eraill sydd wedi dioddef o anghyfiawnderau pensiwn.
Roedd Mr Benson yn gweithio i Allied Steel and Wire am 41 o flynyddoedd, cyn iddo ddarganfod yn 2002 ei fod am golli ei swydd a'i bensiwn roedd o wedi cyfrannu tuag at am 20 mlynedd. Roedd y sefyllfa wedi gadael Mr Benson mewn cyflwr meddyliol gwael.
Dywedodd John Benson, sydd wedi ymgyrchu am flynyddoedd mewn ymgais i wneud yn iawn a’r anghyfiawnder hwn ar ran gweithwyr Allied Steel and Wire:
“Roedd Llywodraeth y DU wedi gaddo i ni fod y pensiynau hyn yn ddiogel ac yn wedi'u diogelu gan y gyfraith, beth bynnag am anawsterau'r cyflogwr. Pa mor anghywir oeddem ni i ymddiried yng Ngweinidogion y DU. Fe gafon ni ein twyllo er ein bod wedi dilyn y rheolau.
“Mae Plaid Cymru wedi bod gyda ni o'r diwrnod cyntaf, a dydyn nhw heb roi'r gorau i'n cefnogi.
“Mae'r gwir yno i bawb i weld - cafodd y pensiynau a addawyd ei dwyn. Mae Llywodraeth y DU yn euog o'r anghyfiawnder cymdeithasol mwyaf y mae'r wlad hon erioed wedi ei weld. Mae'n amser i Weinidog y Llywodraeth godi ei lais yn Nhŷ'r Cyffredin, ac i ddweud wrth y dynion a'r menywod a weithiodd yn ASW: ‘Rydym yn ymddiheuro ar ran yr holl Weinidogion o'r gorffennol a'r presennol sydd wedi troi eu cefnau ar weithwyr er eu bod wedi ymddiried ynom ni, a byddwn yn talu'r pensiynau a addawyd yn llawn.’
“Rhaid talu'r pensiynau hyn yn ôl i'r pryd y dylen nhw fod wedi'u talu, ynghyd â thal am yr holl boen a dioddefaint achoswyd i'r teuluoedd. Mewn geiriau eraill, rhaid stopio'r esgusodion a'r gwastraffu amser, a thalu'r hyn sy'n ddyledus.”
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyllid, Heledd Fychan AS:
“Boed yn fenywod y 1950au, Staff Glo Prydain, neu weithwyr ASW, mae'r Ceidwadwyr a Llafur wedi gwrthod galwadau am gyfiawnder. Rydym wedi dod i ddisgwyl gweld Llywodraethau Ceidwadol yn troi eu cefn ar ein cymunedau, ond bydd y cymunedau hyn yn teimlo wedi’u bradychu o weld Llywodraeth Lafur yn gwrthod eu galwadau.
"Ac yn wir i chi, dyna'r unig air i ddisgrifio agwedd Llafur tuag at y grwpiau hyn - brad. Dywedodd Llafur eu bod yn sefyll gydag ein cymunedau. Dywedodd llafur eu bod yn sefyll gyda menywod y 1950au. Ond yn union fel welson ni gyd gweithwyr Port Talbot, mae Llywodraethau Llafur ym Mae Caerdydd a San Steffan wedi troi eu cefnau ar y bobl hyn gan adael i'r anghyfiawnderau hyn aros heb eu datrys."
“Mae Plaid Cymru yn glir – mae'r cymunedau sydd wedi ei effeithio gan anghyfiawnderau pensiwn yn haeddu atebion i'w galwadau, mae nhw'n haeddu cyfiawnder am y trawma mae nhw wedi gorfod goroesi . Yn wahanol i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, sy'n hapus i fod yn dawel yng ngwyneb yr anghyfiawnderau hyn, bydd Plaid Cymru wastad yn sefyll i fyny dros y cymunedau cafodd eu heffeithio gan agwedd esgeulus San Steffan tuag at ein cymunedau.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter