“Pob lwc ferched” - Plaid Cymru yn cefnogi tîm merched Cymru cyn eu twrnament rhyngwladol mawr cyntaf

Mae Heledd Fychan wedi anfon neges o gefnogaeth i dîm pêl-droed merched Cymru wrth iddynt fynd i'r Swistir ar gyfer eu twrnament rhyngwladol mawr cyntaf.

O 2 Gorffennaf i 27 Gorffennaf, bydd y tîm yn cystadlu yn twrnament Ewro Merched UEFA, gan wynebu 16 tîm ar draws wyth lleoliad gwahanol yn y Swistir. Mae'r twrnament yn nodi carreg filltir hanesyddol wrth i ferched Cymru fynd ar y llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros chwaraeon, Heledd Fychan AS,

 "Ar ran Plaid Cymru, dymunaf y gorau i dîm merched Cymru wrth iddynt gynrychioli ein cenedl yn eu twrnament mawr cyntaf erioed.

 “Mae'r foment hanesyddol hon yn dyst i gryfder anhygoel y tîm, ac i gryfder cynyddol pêl-droed merched yng Nghymru. Mae'n dangos beth all gael ei gyflawni pan gaiff talent ei feithrin ac uchelgais ei gefnogi - rhywbeth y mae Plaid Cymru yn credu y dylai fod wrth wraidd ein gweledigaeth genedlaethol.

 “Wrth iddyn nhw wisgo’r ddraig goch gyda balchder, maen nhw’n cario gobeithion Cymru hyderus ac uchelgeisiol sy’n barod i gymryd ei lle ar lwyfan y byd.

 Rydym yn falch ohonyn nhw, rydym yn credu ynddyn nhw, a byddwn yn eu cefnogi bob cam o’r ffordd. Amdani ferched!"

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-07-07 11:50:35 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd